Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y cyfarfod:
Dydd Mawrth, 11 Mehefin 2019
Amser y cyfarfod: 13.30
------
Gofyn i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth:
Carwyn Jones (Pen-y-bont ar Ogwr) : A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y cyhoeddiad diweddar gan Ford ynghylch Ffatri Beiriannau Pen-y-bont ar Ogwr?
(45 munud)
Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2.
(30 munud)
Gweld y Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
(45 munud)
(45 munud)
(45 munud)
(60 munud)
NDM7062 - Rebecca Evans (Gwyr)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi:
a) bod Cymru yn cael tua £370m o gyllid strwythurol a buddsoddi bob blwyddyn o ganlyniad i aelodaeth y DU o'r UE;
b) yr addewidion a wnaed yn ystod refferendwm yr UE na fyddai Cymru'n colli ceiniog o ganlyniad i ymadawiad y DU â'r UE;
c) cefnogaeth Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol a Phwyllgor Cyllid y Cynulliad Cenedlaethol, y Grŵp Seneddol Hollbleidiol ar Gyllid ar ôl Brexit ar gyfer Cenhedloedd, Rhanbarthau ac Ardaloedd Lleol, a'r rhan fwyaf o randdeiliaid, ar gyfer trefniadau i'r dyfodol sy'n parchu'r setliad datganoli.
2. Yn gresynu at ddiffyg manylder Llywodraeth y DU ynglŷn â'i chynigion ar gyfer Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU a'r ffaith ei bod wedi methu â pharchu'r setliad datganoli wrth ddatblygu'r cynigion hyn.
3. Yn gwrthod y syniad o gronfa ganolog neu gronfa dan gyfarwyddyd y DU neu un sy'n ceisio osgoi'r gweinyddiaethau datganoledig ar ôl Brexit.
4. Yn galw ar Lywodraeth y DU i:
a) cyflawni'r addewidion na fyddai Cymru'n colli ceiniog o ganlyniad i ymadael â’r UE;
b) parchu datganoli a sicrhau bod Cymru'n cadw'r ymreolaeth i ddatblygu a darparu trefniadau olynu ar gyfer cronfeydd strwythurol a buddsoddi sydd wedi'u teilwra i sefyllfa arbennig Cymru o ran polisi, deddfwriaeth a phartneriaeth.
Cyd-gyflwynwyr
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 – Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Dileu pwyntiau 2 a 3.
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mercher, 12 Mehefin 2019